Trawma Yn Ystod Plentyndod A’Rymennydd

Resources > Trawma Yn Ystod Plentyndod A’Rymennydd

Mae’n bleser gan y UK Trauma Council gyflwyno’r animeiddiad Trawma yn ystod Plentyndod a’r Ymennydd. Mae’r animeiddiad yn rhannu’r hyn y mae gwyddonwyr wedi’i ddysgu o astudio’r ymennydd ac effaith camdrin ac esgeulustod mewn ffordd hygyrch a gweledol ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gofalwyr sy’n gweithio gyda phlant sydd wedi profi camdrin ac esgeulustod.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i gefnogi eich dysgu neu i’ch helpu defnyddio Trawma yn ystod Plentyndod a’r Ymennydd yn eich sefydliad ar ein Tudalen Adnoddau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer yr animeiddiad y gallwch eu lawrlwytho, fideos eglurhaol, cyflwyniad PowerPoint, ac erthyglau am y gwaith ymchwil.

Mae’r animeiddiad yn cynnwys geiriau a syniadau’r Athro Eamon McCrory, a Lucy Izzard ddaeth â’r holl beth yn fyw. Cafodd ei ddatblygu gyda mewnbwn sylweddol gan aelodau’r UK Trauma Council, ein partneriaid ym Mhrifysgol Coleg Llundain a’r Ganolfan Anna Freud, a chafodd ei brofi gyda gofalwyr maeth, clinigwyr, gweithwyr cymdeithasol, ac athrawon. Fe’i ariannwyd yn hael gan yr Economic Social Research Council.

TRAWMA YN YSTOD PLENTYNDOD A’R YMENNYDD – trawsgrifiad o’r animeiddiad

Mae datblygiad yr ymennydd yn ymwneud â llawer mwy na bioleg.

O’r blynyddoedd cynnar, mae perthnasau ag eraill yn chwarae rôl allweddol wrth i’n hymennydd dyfu a datblygu.

Mae perthnasau cynnar, lle mae cam-drin ac esgeulustod yn digwydd, yn cael effaith hirdymor ar blant.

Mae’n bosib na fydd ymennydd sydd wedi’i addasu i oroesi mewn byd bygythiol ac anrhagweladwy yn gweithio mor dda mewn amgylchedd arferol.

Gall hyn greu rhywbeth o’r enw ‘Latent Vulnerability’ – lle mae profiadau cynnar o gam-drin neu esgeulustod ar ran gofalwyr yn cyfrannu at y risg o blant yn profi problemau iechyd meddwl yn y dyfodol.

Ar gyfer y plant hyn, o gymharu â’u cymheiriaid, gall brofiadau cyffredin fel symud i ysgol newydd deimlo’n anoddach a pheri mwy o straen.

Gall wynebau newydd ymddangos yn fygythiol, tra bod arwyddion cymdeithasol cadarnhaol yn gallu cael eu colli.

Gall fod yn anoddach i lywio sefyllfaoedd cymdeithasol a dysgu i ymddiried ym mhobl newydd.

Gall brofiadau hwylus, fel ymuno â thîm chwaraeon newydd, hyd yn oed fod yn heriol.

Mae gormod o ffocws ar arwyddion o fygythiad posibl yn gallu golygu bod plant yn camddeall arwyddion cymdeithasol cadarnhaol megis pwnio chwareus.

Neu mae’n achosi gor-ymateb sy’n arwain at risg uwch o wrthdaro ac weithiau, trais.

Gall yr ymatebion hyn gynyddu’r tebygolrwydd o greu digwyddiadau NEWYDD sy’n achosi straen.

Mae’n anoddach ymdrin â heriau bob dydd pan nad ydych yn teimlo’n hyderus ac yn llawn gorbryder y tu mewn, ac mae’n anoddach i adeiladu a chynnal perthnasau.

Dros amser gall hyn olygu bod plentyn yn colli ffrindiau a chefnogaeth oedolion ac felly’n colli cyfleoedd i dyfu a datblygu. Mae’r ‘Teneuo Cymdeithasol’ hwn yn gallu cynyddu’r risg o broblemau iechyd meddwl yn y dyfodol.

Mae ymchwil niwrowyddonol yn dechrau datgelu SUT mae bregusrwydd yn datblygu yn ystod bywyd plentyn.

Mae pob plentyn angen gofal a symbyliad – gan oedolion sy’n eu gwerthfawrogi, ac sy’n talu sylw iddynt ac yn dangos cariad atynt. Mae’r profiadau hyn yn ffurfio datblygiad ymennydd plentyn.

Pan fo plant yn wynebu profiadau trawmatig, fel cam-drin ac esgeulustod, mae eu hymennydd yn addasu i’w helpu ymdopi. Rydym yn gwybod am newidiadau mewn tair system ymennydd wahanol: y systemau gwobrwyo, cofio a bygwth.

Gall brofiadau o drais yn y cartref neu gam-drin corfforol arwain at orgynnwrf– lle mae’r ymennydd yn ymateb yn fwy i fygythiad.

Gall hyn helpu plentyn i aros yn ddiogel mewn amgylchedd niweidiol cynnar, ond gall achosi problemau mewn amgylcheddau mwy arferol.

Gellir deall gorgynnwrf orau fel patrwm o addasiad yn hytrach nag arwydd o niwed.

Gall gam-drin ac esgeulustod hefyd olygu byd lle nad yw anghenion sylfaenol plentyn, fel gofal a sylw, yn cael eu diwallu. Gall hyn ffurfio system wobrwyo’r ymennydd – rhan yr ymennydd sy’n ein helpu i ddysgu am agweddau cadarnhaol ein hamgylchedd ac yn cymell ein hymddygiad.

Dros amser, mae system wobrwyo’r ymennydd yn gallu dysgu ymateb yn wahanol i bethau fel arwyddion cymdeithasol cadarnhaol.

Mae astudiaethau niwrowyddonol hefyd wedi nodi newidiadau yn y system gofio hunangofiannol – ein cof o brofiadau bob dydd yn y gorffennol.

Yn dilyn trawma, mae atgofion negyddol yn ymddangos i fod yn fwy amlwg, sydd hefyd yn golygu eu bod yn dod yn fwy amlwg na rhai cadarnhaol; a gall atgofion bob dydd hefyd fynd yn llai manwl.

Mae hyn yn broblem, oherwydd bod angen i ni ystyried profiadau yn y gorffennol i’n helpu i ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol NEWYDD.

Mae ymchwil niwrowyddonol yn dangos sut all trawma yn ystod plentyndod greu ‘latent vulnerability’, sy’n cynyddu’r risg o broblemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder yn hwyrach. Mae’r bregusrwydd hwn nid yn unig wedi’i leoli yn y plentyn ond mae’n codi o fewn eu perthnasau hefyd.

Mae helpu plant sydd wedi profi trawma o hyd yn gofyn am ffiniau a goblygiadau arferol ond mae gofyn hefyd ein bod yn camu’n ôl, adlewyrchu ar ymddygiad yr ydym yn ei ystyried yn heriol, a’i weld mewn goleuni newydd. Mae’n bosib bod y plentyn ond yn gwneud ei orau i oroesi nawr, gydag addasiadau ymennydd o’r gorffennol.

Gwyddwn fod gan ymennydd plentyn y gallu i barhau i addasu. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen ein help arnynt i adeiladu a chynnal perthnasau y maen nhw’n ymddiried ynddynt, rheoli pethau sy’n peri straen bob dydd ac atal rhai newydd rhag digwydd.

Mae angen i ni eu hannog i roi cynnig arall arni a chredu yn y ffaith y gall bethau fod yn wahanol. Mae hyn yn dasg anodd, ac yn cymryd amser.

Mae Gwyddoniaeth yn helpu ail-fframio ein dealltwriaeth o drawma yn ystod plentyndod. Gall weld ymddygiad plant mewn goleuni newydd olygu ein bod yn ymateb yn wahanol. Ond mae llawer i’w ddysgu o hyd. Drwy gyd-weithio, gallwn ddatblygu dulliau mwy effeithiol sy’n hyrwyddo cydnerthedd a gwelliant. Gallwn helpu plant adeiladu perthnasau y mae modd ymddiried ynddynt. A chreu cyfleoedd i’w ymennydd addasu mewn ffyrdd newydd.

Mae Eamon McCrory yn Athro Niwrowyddoniaeth Datblygiadol a Seicopatholeg yn UCL; Cyd-gyfarwyddwr yr Uned Risg a Gwydnwch Datblygiadol yn UCL; Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-Raddedig yng Nghanolfan Genedlaethol Plant a Theuluoedd Anna Freud; Cyd-gyfarwyddwr y UK Trauma Council. Mae gwaith ymchwil Eamon yn canolbwyntio ar brofiadau niweidiol cynnar a phroblemau ymddygiadol yn ystod plentyndod. Gan ddefnyddio delweddu ymennydd a dulliau seicolegol, mae’r Athro McCrory yn archwilio sut mae profiadau niweidiol datblygiadol a gwydnwch yn gweithio, gyda ffocws ar effaith camdrin ar iechyd meddwl plant yn y dyfodol.

Decor Decor Decor Decor Decor Decor Decor