Adnoddau i helpu oedolion mewn ysgolion a cholegau i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael profedigaeth drawmatig.
Profedigaeth Drawmatig
Adnoddau am ddim, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i gefnogi ysgolion, colegau ac ymarferwyr sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig.
Mae plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig yn profi gofid ac anawsterau arwyddocaol, yn fwy na galar mwy nodweddiadol. Gall rhieni, athrawon a hyd yn oed ymarferwyr profedigaeth golli neu gamddeall profedigaeth drawmatig, sy’n golygu nad yw anawsterau plant yn cael eu hadnabod.
Bydd yr adnoddau hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau sydd eu hangen ar staff ysgol ac ymarferwyr i adnabod, helpu a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael profedigaeth drawmatig.