Profedigaeth drawmatig ar gyfer ymarferwyr

Canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio’n therapiwtig â phlant a phobl ifanc.

Mae angen cefnogaeth ychwanegol ar blant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig i brosesu trawma’r farwolaeth. Defnyddiwch yr adnoddau hyn, a ddatblygwyd gan yr UK Trauma Council ar y cyd â thair elusen profedigaeth plant, i ddeall effaith profedigaeth drawmatig ac i ddysgu sut i gefnogi plant a phobl ifanc orau.

Argymhellwn eich bod yn dechrau drwy wylio’r animeiddiad rhagarweiniol ac yna’n lawrlwytho a darllen y canllaw cyfan yma. Gellir dod o hyd i uchafbwyntiau o’r canllaw gyda fideos esbonio cyflenwol ar y tudalennau isod.

Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau penodol ar gyfer ysgolion a cholegau ar y dudalen profedigaeth drawmatig ar gyfer cymunedau ysgol.

Decor Decor Decor Decor Decor Decor Decor Decor