Canllaw clinigol am brofedigaeth drawmatig
Canllaw ymarfer helaeth i gefnogi gwaith therapiwtig â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth drawmatig.
Mae hyn yn rhan o adnodd profedigaeth drawmatig, sy’n cefnogi ysgolion, colegau ac ymarferwyr sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc.
Mae’r canllaw yn cynnwys dulliau a mesurau i adnabod profedigaeth drawmatig yn gywir, canllawiau ar sut a phryd i gyfeirio at wasanaethau mwy arbenigol, a dulliau sydd wedi’u hysbysu gan dystiolaeth i ddiwallu’r anghenion penodol a all godi o brofedigaeth drawmatig.
I bwy y mae’r canllaw?
Pobl sydd eisoes yn gweithio’n therapiwtig â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth sydd â’r hyfforddiant, profiad a goruchwyliaeth priodol.
Mae’r canllawiau hyn yn cynrychioli safbwynt yr UK Trauma Council, ar ôl iddynt ystyried y dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus. Nid yw’r canllaw yn diystyru eich cyfrifoldeb i wneud penderfyniadau sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolyn, gan ymgynghori â nhw a’u teuluoedd, gofalwyr neu warcheidwaid, ac yn unol â’ch polisïau a gweithdrefnau proffesiynol a sefydliadol.
Dysgu rhagor
Gallwch ddarllen uchafbwyntiau’r canllaw hwn a gwylio’r fideos atodol yma.
Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau penodol ar gyfer ysgolion a cholegau ar y dudalen profedigaeth drawmatig ar gyfer cymunedau ysgol.