Mark: Ti’n iawn?
Jeanie: Wesley yw e. Mae cryn amser wedi mynd heibio ers i’w Dad fynd yn sal a marw. Ond dwi o hyd yn poeni, Dwi’n gwybod bod pob profedigaeth yn anodd i’w rheoli a bod galar pawb yn unigryw, ond – dwi ddim yn credu ei fod yn ymdopi â bywyd yn dda iawn.
Raffia:Mae rhai profedigaethau’ngallu bod ynarbennig o anodd…beth am inifeddwl am sutmaeeindisgyblioneraillwediymatebifarwolaethrhywun?
Mark: Wrth i mi feddwl nôl i Prisha a marwolaeth ei Mam – roedd hi’n drist iawn, ond roedd hi hefyd yn cael cyfnodau gwell – pan fyddai’n rhannu lluniau o’i Mam, i gadw ei hatgofion yn fyw.
Raffia: Mae syniad bod pobl ifanc yn aml yn galaru mewn pyllau, yn dipio i mewn ac allan o’u galar – yn profi teimladau cryf ac yna’n mynd ati i wneud eu pethau arferol! Wyt ti’n credu bod Wesley’n sownd mewn pwll?
Jeanie: Mae mwy fel petai’n sownd mewn ffynnon.
Raffia: Cofio Cara? Roedd hi wir yn ei chael hi’n anodd. Dywedodd y gwasanaeth profedigaeth mai profedigaeth drawmatig oedd hynny.
Jeanie: Profedigaeth drawmatig?
Raffia: pan fod rhywbeth am y farwolaeth sy’n ormod i’w ymdopi ag ef, felly maen nhw’n parhau i gael anawsterau.
Jeanie:nad yw pob profedigaeth yn drawmatig?
Raffia: Wel, pan fydd rhywun yr ydych yn eu hadnabod neu’n eu caru yn marw, mae wastad yn mynd i fod yn anodd rhywsut, ond nid o reidrwydd yn drawmatig
Jeanie: beth sy’n ei wneud yn drawmatig?
Raffia: Mae rhai amgylchiadau’n sy’n gallu gwneud profedigaeth yn fwy tebygol o fod yn drawmatig ….
Mark: Wel, bu farw brawd Cara drwy hunanladdiad. Efallai bod hynny’n rhan o beth wnaeth hi’n golled drawmatig?
Raffia: Ac roedd llawer o anawsterau yn ei gorffennol yn barod. Ond mae’n ymwneud â thrawma’r marwolaeth yn rhwystro’r gallu i alaru … oherwydd mae’r marwolaeth yn newid y ffordd y maent yn gweld pethau, mae’n lliwio eu safbwynt o bopeth – y byd, pobl eraill, hyd yn oed eu hunain – mae’n ymwneud ag ystyr y farwolaeth iddyn nhw.
Jeanie: Allai profedigaeth Wesley fod yn drawmatig? Doedd e ddim wedi gweld unrhyw beth erchyll.
Raffia: Ond mae’n bosib iddo ei ddychmygu. Dywedais di ei fod wedi ei chael hi’n anodd peidio â gallu ymweld â’i Dad yn yr ysbyty, doedd e methu dweud ffarwél iddo na bod gyda’i Fam pan oedd ei Dad yn marw. Nid ei fai ef oedd hyn, ond efallai ei fod yn teimlo ei fod wedi gadael ei rieni i lawr?
Jeanie: dyw e ddim yn gallu goddef edrych ar luniau o’i Dad, mae’n rhy boenus oherwydd yr unig beth all feddwl amdano yw ei Fam ar ei phen ei hun pan fu farw ei Dad. A methu â dweud ffarwél.
Raffia: i Cara, roedd hi mor ofnus oherwydd beth ddigwyddodd i’w brawd, daeth y byd yn le brawychus.
Mark: I ddechrau, doeddwn ni ddim yn gweld ofn Cara, dim ond ei ffrwydradau o ddicter. Efallai bod hyn yr un peth gyda Wesley
Jeanie: mae mor anodd gwybod beth i’w ddisgwyl gyda galar – mae mor unigryw nad yw hi??
Raffia: Ie, ond efallai ei bod hi’n ddefnyddiol i feddwl sut oedden nhw cyn y farwolaeth. Faint ydyn nhw wedi newid? Ydy’r newidiadau hyn o hyd yn eu llethu’n aml? Oes unrhyw beth yn dechrau dod yn haws neu a yw o hyd yn anodd iawn? Ac mae’n bwysig i feddwl am eu hanes. Wyt ti wedi siarad am hyn gyda’i Fam?
Jeanie: Ydw, mae ei Fam yn cytuno, mae bendant newid mawr yn Wesley ers i’w Dad farw: nid yw mor gryf ei gymhelliant, mae wedi colli’i sbarc, fel petai. Mae ei waith academaidd yn dioddef. I ddechrau, meddyliais i bod hyn yn ddigon teg. Ond roeddwn i’n disgwyl iddo wneud yn well erbyn hyn. Ond, os unrhyw beth, efallai bod pethau’n gwaethygu, efallai mai profedigaeth drawmatig yw hyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Raffia: Mae’n gymorth mawr yn barod dy fod wedi sylwi ar ei anawsterau ac yn meddwl amdano. Cadwa’r berthynas i fynd, y cyfathrebu, yr ymddiriedaeth a’r gofal. Ac yna gallwn ni drafod cyfeirio Wesley at arbenigwr i’w helpu i fynd i’r afael â’i drawma ac i alaru ei golled. Os fyddwn ni’n parhau i weithio â Wesley a’i Fam, dwi’n obeithiol y bydd pethau’n gwella.