Profedigaeth Drawmatig ar gyfer plant a phobl ifanc

Dysgwch am brofedigaeth drawmatig a beth all helpu os ydych chi’n poeni am eich hun neu rywun arall.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc. Dysgwch am deimladau a symptomau cyffredin o brofedigaeth drawmatig ac i le i fynd i gael cymorth.

Mae’n anodd iawn pan fo rywun pwysig yn eich bywyd yn marw. Mae’n bosib y byddwch yn cael llawer o deimladau gwahanol.

Beth yw Profedigaeth Drawmatig?

Mae’n anodd iawn pan fo rywun pwysig yn eich bywyd yn marwmae’n bosib y byddwch yn cael llawer o deimladau gwahanol. Er efallai eich bod chi’n drist iawn, efallai gallwch chi gael hwyl a mwynhau pethau weithiau hefyd.

Galar yw’r gair sy’n esbonio’r holl deimladau o golli’r person a fu farw. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am alar fel camu i mewn ac allan o byllau. Pan fydd rhywun yn camu i mewn i’w pwll o alar, maent yn cofio holl dristwch marwolaeth y person pwysig. Pan fyddant yn camu allan o’r pwll, maent yn gweld eu bod o hyd yn gallu cael hwyl. Nid yw’r tristwch wedi mynd, ond nid ydynt yn y pwll galar drwy’r amser.

Pan fyddwch chi’n cael profedigaeth drawmatig, mae hyd yn oed yn anoddach, ac mae’n bosib y bydd eich teimladau’n eich llenwi cymaint, eu bod yn cadw gorlifo. Yn ogystal â theimlo’n drist, efallai eich bod yn teimlo’n anniogel, blin, pryderus neu ofnus.

Gall yr hyn ddigwyddodd fod mor anodd i feddwl amdano eich bod yn treulio llawer o amser ac egni’n ceisio peidio â meddwl neu siarad amdano. Gall hyn ymyrryd ar gael hwyl a gwneud y pethau yr oeddech yn arfer eu mwynhau.

Gyda phrofedigaeth drawmatig, gall deimlo fel petai’r pwll mor ddwfn ei fod yn teimlo fel ffynnon a’u bod yn sownd mewn lle dwfn gyda llawer o feddyliau a theimladau anodd. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ymdopi.

Beth sy’n gwneud profedigaeth yn drawmatig?

Mae’r hyn sy’n gwneud profedigaeth yn drawmatig yn wahanol iawn i bob un. Nid yw hyn oherwydd bod y person wedi marw mewn ffordd benodol neu ar adeg benodol. Mae’n ymwneud â’r hyn y mae’r farwolaeth yn ei golygu i’r person sy’n galaru a sut mae’r ystyr hwn yn effeithio ar y ffordd y maent yn gweld pethau. Gall hyn gael effaith arwyddocaol ar eu bywyd. Er y gallai pawb yn y teulu fod yn galaru am yr un person, gall eu galar fod yn wahanol iawn. Efallai bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar rai aelodau o’r teulu, ond nid pawb. Nid eich bai chi ydyw os ydych yn ei chael hi’n arbennig o anodd ac angen cefnogaeth ychwanegol.

Ym mhle alla i gael cymorth?

Yn gyntaf, siaradwch ag oedolion yr ydych yn ymddiried ynddynt. Os ydych chi’n teimlo bod profedigaeth yn anoddach i chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod ac eich bod chi neu nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi’r rhan fwyaf o’r amser, bydd angen cymorth oedolion arnoch. Gofynnwch yr oedolyn i’ch helpu i ddod o hyd i gymorth.

Dyma rai awgrymiadau:

Decor Decor Decor Decor Decor Decor Decor