Profedigaeth drawmatig ar gyfer rhieni a gofalwyr

Gwybodaeth ar gyfer pan fyddwch chi’n poeni am drafferthion eich plentyn yn dilyn profedigaeth.

Mae’r dudalen hon yn esbonio profedigaeth drawmatig ac yn eich helpu i ystyried ai dyma beth mae’ch plentyn yn ei brofi. Yn gyntaf, rydym yn cyflwyno galar mwy nodweddiadol, yna rydym yn esbonio beth sy’n gwneud profedigaeth drawmatig yn wahanol ac yn rhannu lle y gallwch ddod o hyd i ragor o gefnogaeth.

Gallwch lawrlwytho’r wybodaeth ar y dudalen hon fel taflen sy’n addas i’w hargraffu.

Galar nodweddiadol

Ar ôl i rywun pwysig i blentyn neu berson ifanc farw, byddant mwy na thebyg yn profi sawl emosiwn anodd ac yn cael rhai diwrnodau sy’n teimlo’n anodd iawn. Dros amser, bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dysgu addasu ac mae eu galar yn lleihau wrth iddyn nhw ddysgu i fyw gyda’r golled. Mae’n bosibl y byddant yn parhau i deimlo’n drist iawn ar adegau, ond maent yn dechrau cael adegau da, hyd yn oed diwrnodau da pan allant fwynhau pethau a chael cysur o’u hatgofion o’r person a fu farw.

Un ffordd i feddwl am broses mwy nodweddiadol yw dychmygu plentyn neu berson ifanc yn camu i mewn ac allan o byllau o alar. Pan fyddant yn camu i mewn i bwll, maent yn cofio holl dristwch y farwolaeth. Pan maent yn camu allan o’r pwll, maent o hyd yn gallu cael hwyl a chysylltu â’r bobl o’u hamgylch. Nid yw’r tristwch wedi mynd, ond nid ydynt yn y pwll o alar drwy’r amser.

Profedigaeth drawmatig

Ar gyfer rhai plant a phobl ifanc, mae’r ffordd y maent yn deall neu’n meddwl am farwolaeth yn eu gadael yn teimlo’n anniogel iawn – maent yn profi eu colled fel trawma. Mae’r trawma’n ymyrryd ar y broses o alaru ac yn atal eu gallu i addasu. Profedigaeth drawmatig yw hon.

Os yw plentyn neu berson ifanc yn cael profedigaeth drawmatig, bydd hyd yn oed yn anoddach iddynt a bydd eu teimladau’n llethol am ragor o’r amser. Yn ogystal â theimlo’n drist, mae’n bosibl eu bod yn teimlo’n anniogel, blin, pryderus, euog neu’n ofnus yn aml. Gall fod mor anodd i feddwl am yr hyn ddigwyddodd a’r ffordd y maent yn ei ddeall, y maent yn treulio llawer o amser ac egni’n ceisio peidio â meddwl neu siarad amdano. Gall hyn ymyrryd ar wneud pethau yr oeddent yn arfer eu mwynhau. Efallai ei bod hi’n anodd iddynt i gael dyddiau gwell, neu hyd yn oed adegau gwell. Yn lle pwll o alar, gall profedigaeth drawmatig deimlo mwy fel ffynnon ac mae’r plentyn neu berson ifanc yn sownd mewn lle dwfn gyda llawer o feddyliau a theimladau anodd. Efallai y byddwch yn sylwi eu bod yn cael trafferth cyd-dynnu â phobl, i reoli teimladau cryf, i ymdopi yn yr ysgol neu eu bod yn teimlo’n isel neu bryderus iawn.

Mae bod yn sownd â theimladau llethol ac anodd yn gwneud bywyd bob dydd yn anodd iawn a gall effeithio ar iechyd meddwl. Gall fod yn anodd i blant a phobl ifanc i ddod allan o’r ‘ffynnon’ heb gefnogaeth ychwanegol.

Mae’r hyn sy’n gwneud profedigaeth yn drawmatig yn wahanol iawn i bob un. Nid yw hyn oherwydd bod y person wedi marw mewn ffordd benodol neu ar adeg benodol. Mae’n ymwneud â’r hyn y mae’r farwolaeth yn ei golygu i’r unigolyn a sut mae’r ystyr hwn yn effeithio ar eu bywyd. Er y gallai pawb yn y teulu fod yn galaru am yr un person, gall eu galar fod yn wahanol iawn. Efallai bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar rai aelodau o’r teulu, ond nid pawb. Nid bai eich plentyn ydyw os ydynt yn ei chael hi’n arbennig o anodd ac angen cefnogaeth.

Ym mhle alla i ddysgu rhagor?

Os ydych chi’n poeni am eich plentyn ac yn teimlo eu bod yn cael trafferth ymdopi llawer o’r amser, ni ddylech geisio ag ymdopi â hyn ar eich pen eich hun.

Chwiliwch am gefnogaeth ychwanegol gan wasanaeth profedigaeth lleol neu trefnwch apwyntiad â meddyg teulu eich plentyn. Gofynnwch iddynt eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl y GIG (a adwaenir weithiau fel CAMHS) sy’n gallu helpu os yw’r anawsterau’n effeithio ar iechyd meddwl eich plentyn.

Os ydych chi hefyd yn cael trafferth, gallwch geisio cymorth ar gyfer eich plentyn gan wasanaethau sy’n cynnwys:

Decor Decor Decor Decor Decor Decor Decor